Lleoliad:
Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 30 Tachwedd 2021
Amser:
09.04 -
09.38
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Russell George AS Siân Gwenllian AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Lowri Weatherburn (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Anfonodd Darren Miller ei ymddiheuriadau ac roedd Russell George yn bresennol yn ei le.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 7 Rhagfyr 2021 –
Dydd Mawrth 14 Rhagfyr 2021 –
Dydd Mawrth 11 Ionawr 2022 -
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 12 Ionawr 2022 -
4 Deddfwriaeth
4.1 Amserlen ar gyfer y Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu)
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen gyda dyddiad cau diwygiedig o 8 Ebrill 2022, ar gais y Pwyllgor Cyllid, ar gyfer cyflwyno adroddiad Cyfnod 1.
4.2 Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar, y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) a'r wybodaeth ddiweddaraf am Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 2) ar Fil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.
Nododd y Rheolwyr Busnes y cyfnod eithriadol o dynn ar gyfer craffu a chytunodd, o ystyried nad oedd pwyllgorau'n debygol o allu bodloni'r terfyn amser adrodd o 2 Rhagfyr a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru, y byddai'n bosibl gosod adroddiadau pwyllgorau ar unrhyw adeg cyn cynnal dadl y Cyfarfod Llawn ar 7 Rhagfyr.
Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyda dyddiad cau o 9 Rhagfyr ar gyfer cyflwyno adroddiad arno. Nododd y Rheolwyr Busnes y cyfnod cywasgedig ar gyfer craffu.
Y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol
Nododd y Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf am Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol gan Lywodraeth Cymru.
5 Cyfarfod Llawn
5.1 Llythyr gan y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y cais i Aelodau o'r Pwyllgor gael eu hesgusodi o'r Cyfarfod Llawn ar yr adegau y gofynnwyd amdanynt a nodwyd y rhesymau pam nad oedd y pwyllgor wedi gallu dod o hyd i slot cyfarfod arall y tro hwn.
6 Pwyllgorau
6.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau - Cais am ddadl yn y Cyfarfod Llawn
Gofynnodd y Rheolwyr Busnes am ragor o wybodaeth am statws presennol penderfyniadau sy'n ymwneud â dyfodol yr adeilad cyn iddynt wneud penderfyniad ynghylch a ddylid cytuno i drefnu dadl.
Unrhyw faterion eraill
Gofynnodd Jane Dodds AS am eglurder ynghylch y sefyllfa o ran Aelodau'n gwisgo gorchuddion wyneb yn y Siambr pan nad ydynt yn siarad, gan nodi bod gwisgo masgiau wedi dod yn bwysicach ac yn fwy cyffredin yng ngoleuni'r amrywiolyn Covid-19 newydd. Gofynnodd y Llywydd i'r Rheolwyr Busnes atgoffa'r holl Aelodau o'r cyngor presennol y dylid gwisgo gorchuddion wyneb yn y Siambr pan nad yw Aelodau'n siarad a dywedodd y byddai'n ystyried y cyngor presennol ymhellach ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau os oes angen.
3.1 Busnes yr wythnos hon
Dydd Mawrth
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at yr ychwanegiadau a ganlyn i agenda heddiw:
Mae'r datganiad ar 'Cymru Iachach' a'r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd ill dau wedi'u gohirio tan 11 Ionawr.
Dydd Mercher
Rhoddodd y Llywydd wybod i'r Rheolwyr Busnes am ei bwriad i gyhoeddi canlyniadau etholiad Senedd Ieuenctid Cymru ar ddechrau'r Cyfarfod Llawn ddydd Mercher, cyn galw’r busnes ffurfiol.
Nododd y Llywydd y bwriedir i’r Cytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru ddechrau ar 1 Rhagfyr. Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes ei bod wedi bod yn gohebu â'r Prif Weinidog am fanylion y cytundeb ac wedi gofyn am i wybodaeth am sut y bydd yn gweithio'n ymarferol gael ei rhannu ag Aelodau'r Senedd cyn gynted â phosibl. Unwaith y bydd y wybodaeth hon ar gael, dywedodd y Llywydd ei bod yn bwriadu gwneud datganiad i'r Cyfarfod Llawn ar unrhyw effaith y gallai'r trefniadau ei chael ar weithrediad Busnes y Senedd.